Mehefin 2024
Secondiad THINK Gorffennaf – Medi 2024
Cyfle i weithio ar y broses o integreiddio teithio ar fysiau a beiciau yng Nghymru: Secondiad rhan-amser gyda’r Grŵp Trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol (CPGATA)
Lawrlwytho’r wybodaeth lawn:
Chwefror 2024
Gweithdy Newid Ymddygiad a Diwylliant (Grŵp Rhanddeiliaid Siarter Teithio Iach)
21 Chwefror 2024, 13:30 – 15:30, ar-lein
E-bostiwch think@aber.ac.uk i ofyn am ddolen i ymuno â Teams.
Gyda Dr Simon Payne, arweinydd y cwrs Meistr Newid Ymddygiad ym Mhrifysgol Aberystwyth a James Smolinski, Uwch Arbenigwr mewn Gwyddor Ymddygiad o Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ymunwch â nhw wrth iddynt gyflwyno sut mae seicoleg newid ymddygiad yn gallu helpu eich tîm i fabwysiadu arferion ac ymddygiadau newydd yng nghyd-destun trafnidiaeth ac iechyd.
Mae Simon yn seicolegydd perfformio (Aelod Siartredig o Gymdeithas Seicolegol Prydain), ac yn wyddonydd ym maes newid ymddygiad a gweithredu, yn gweithio fel darlithydd mewn seicoleg a newid ymddygiad yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyd-gynlluniodd y cwrs cyffrous newydd MSc mewn Newid Ymddygiad, a’i gydlynu.
Gwyddonydd ymddygiadol a seicolegydd iechyd dan hyfforddiant yw James sy’n gweithio yn Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n cydweithio â Thrafnidiaeth Cymru i’w helpu i gyrraedd eu nod o sicrhau y bydd 45% o’r holl deithiau yng Nghymru yn cael eu gwneud drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040.
Bydd hwn yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai hynny sydd â swyddi arweiniol mewn sefydliadau sydd â’r seilwaith ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy ond sy’n ei chael hi’n anodd denu llawer o bobl i’w ddefnyddio.
Bydd sesiwn holi ac ateb felly gwnewch yn siŵr bod eich cwestiynau’n barod, a gallwch eu hanfon ymlaen llaw at think@aber.ac.uk os na allwch fod yn bresennol ar y diwrnod.
I’r rhai na allant fod yno byddwn yn recordio’r sesiwn ac yn sicrhau ei fod ar gael ar ôl y digwyddiad trwy sianel YouTube THINK.
Seminar: Opsiynau trafnidiaeth i oedolion ifanc – mantoli’r rhyddid a’r risg
https://www.eventbrite.co.uk/e/827202062637?aff=oddtdtcreator
Dydd Iau 22 Chwefror, 13:30 – 14:30, ar-lein
Bydd y Dr Sarah Jones yn siarad am newidiadau mewn ymddygiad teithio pobl ifanc wrth iddynt adael addysg orfodol. Bydd hi’n tynnu sylw at y risgiau unigol a ddaw yn sgil hyn, yn ogystal â’r her y mae’n ei chyflwyno o ran annog teithio llesol gydol oes a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a’r goblygiadau i’n hinsawdd. Yn olaf, bydd yn trafod atebion posibl, yn enwedig Trwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr.
Bydd y Dr Shaun Helman yn mynd â ni drwy’r ffeithiau sylfaenol a’r ystod o risgiau sy’n wynebu gyrwyr ifanc a newydd, gan gynnwys rhai camau sydd wedi’u cymryd i ymdrin â’r risgiau sy’n wynebu’r grŵp hwn. Bydd yn cyflwyno un ffordd bosib o fynd i’r afael â’r risgiau hyn, sef y syniad o Drwyddedu Graddedig i Yrwyr, ac yn egluro rhai o’r dadleuon cyffredin yn erbyn y dull hwnnw.
Dr Ian Greenwood: Mae llawer ohonom yn arbenigwyr yn ein meysydd ein hunain ac yn gwybod heb unrhyw amheuaeth beth y gellid neu y dylid ei wneud i newid polisi lle’r rydym yn credu bod y dystiolaeth yn ddigon cryf i ddarbwyllo gwleidyddion bod angen y newid hwnnw. Gallwn gael ein siomi. Gan ddefnyddio polisi ar yrwyr ifanc ym Mhrydain rhwng 1987 a 2021 i fframio’r drafodaeth, mae Ian yn rhoi crynodeb o’r cylch sy’n bythol droi o ran llunio polisïau GDL, ac sy’n parhau i 2024. Mae’n cyflwyno dau faes a allai lywio ein ffordd o feddwl o ran sut i ddylanwadu ar yr agenda. Yn gyntaf cymhwyso model ffrydiau lluosog Kingdon (1995) a phwysigrwydd cydblethu ffrydiau’r broblem, polisi a gwleidyddiaeth ac, yn ail, gwaith Marsden and Reardon (2017) sy’n dadlau nad oes digon o bwyslais ar sut a pham y gwneir polisïau – neu beidio – ym maes polisi trafnidiaeth (llywodraethu), yn lle hynny, rhoddir sylw yn bennaf i beth y mae angen ei newid. O fewn hyn oll, mae iaith, y fframio, a’r amodau pan fydd ‘ffenestr’ bolisi yn agor yn elfennau pwysig ym myd cymhleth ac amwys polisi cyhoeddus.
Gweithdy THINK am ddim: Pontio teg neu bontio a dim mwy?
Dydd Iau, 29 Chwefror 2024, ar-lein, 13:00 – 14:30
GWYBODAETH AM ARCHEBU https://THINKWorkshop-JustATransition.eventbrite.co.uk
Bydd cyfarwyddiadau ymuno â’r digwyddiad ar-lein yn cael eu hanfon atoch ddiwrnod cyn y digwyddiad.
Petai’r holl gerbydau sydd wedi’u parcio ar y palmant yn y ddelwedd uchod yn gerbydau trydan 100%, a fyddai hyn yn enghraifft o Bontio Teg neu’n bontio a dim pellach? I fenthyg oddi wrth Buckminster Fuller, ni allwn ddefnyddio ein dull presennol i ddatgarboneiddio ein trafnidiaeth yn deg, mae angen i ni greu dewisiadau sy’n wahanol i’n model presennol. Ymunwch â ni i helpu i lunio dull gweithredu posibl a all leihau effaith teithio ar bobl yn ogystal â’r blaned.
Nid yw’r ymdrechion i wneud teithio’n fwy teg yn llwyddo ac nid yw hyn yn argoeli’n dda i gyflawni’r Pontio Teg tuag at deithio carbon isel. Er gwaethaf degawdau o ymchwil, strategaethau ac ymgyrchu am deithio mwy cynhwysol, mae’r cynnydd wedi’i ddisgrifio fel ‘araf a thameidiog’ ac mewn adroddiad diweddar, Trafnidiaeth i Bawb, disgrifiwyd effaith yr anghyfiawnder hwn gan pobl anabl gan ddweud ei fod yn cael ei ‘deimlo ym mhob cornel o’n bywydau’.
Ac yn awr rydyn ni’n ailgynllunio i gyflym ddatgarboneiddio’r rhwydweithiau trafnidiaeth. Os yw’r cerbydau newydd a geir heddiw, ynghyd â’r amgylcheddau teithio newydd, yn parhau i beri anabledd ac anfantais, pa bryd fydd y newid hwnnw’n dechrau troi’n newid deg? Pryd fyddwn ni’n dechrau ar y Pontio Teg hwnnw? Pryd fyddwn ni’n dechrau cymryd yr unig gyfle hwn i gynllunio ar gyfer cynhwysiant, yn ogystal â datgarboneiddio, yn gydamserol ac yn fwriadol?
Mae Andy Hyde yn dod â phobl at ei gilydd – y rhai sydd yn profi anabledd oherwydd ein rhwydweithiau trafnidiaeth a’r rhai hynny sy’n dylunio ein gwasanaethau a’u darparu. Yn y gweithdy hwn, bydd Andy yn ystyried beth allai fod yn ein hatal rhag creu gwasanaethau sy’n fwy cynhwysol gan awgrymu rhai syniadau a allai droi’r arbenigedd a’r profiad sydd eisoes gennym yn gynlluniau y gellir eu gweithredu ar unwaith. Cynlluniau i ymgorffori dylunio cynhwysol (dylunio ar gyfer pobl) yn y cynlluniau i ddatgarboneiddio sy’n dod i’r amlwg (dylunio ar gyfer y blaned).
“Yr her yw osgoi cael eich caethiwo gan y presennol – sy’n gofyn am ddod o hyd i ddull, gofod, neu bwyntiau o ddylanwad, er mwyn gallu meddwl meddyliau nad ydynt yn bodoli eto” Geoff Mulgan
Bydd Andy yn rhannu rhai syniadau ar ddull newydd sy’n defnyddio iaith newydd ar gyfer teithio ac yn ystyried ein teithiau fel system, casgliad o brofiadau y tu hwnt i drafnidiaeth. Yna byddwn yn gweithio gyda’n gilydd mewn grwpiau, gan graffu ar broses a allai helpu i sicrhau bod ymdrechion i wella cynhwysiant yn cyd-fynd â chynlluniau i ddatgarboneiddio, ac yn cyfuno â hwy. Nid yw’n honni mai dyma’r ateb, ond mae’n ddechrau.
Bydd cyfle i gyfrannu a sgwrsio trwy gydol y digwyddiad hwn. Os ydych chi’n ymwneud a threfnu teithiau, ymunwch â ni i gwrdd â chydweithwyr o’r sector trafnidiaeth, iechyd, y byd academaidd, polisi a’r trydydd sector ynghyd â phobl sydd â phrofiad o gael eu heithrio ac o fod o dan anfantais wrth deithio.
Ymunwch â ni am gyfle prin i ddefnyddio ein dychymyg, creu gweledigaethau amgen o deithiau mwy cynhwysol a charbon isel yn y dyfodol a llunio syniadau ar gyfer ffordd newydd o gydweithio.
FAQs
2023
Cyfle i weithio ar brosiect ymchwil ynghylch meddygon teulu / gofal sylfaenol yn y Canolbarth: secondiad rhan amser gydag Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW)
Rydym yn chwilio am unigolyn a gyflogir ar hyn o bryd gan sefydliad o fewn ein rhwydwaith THINK i fod yn Ymchwilydd i RHCW, a fydd yn edrych ar drafnidiaeth a’r rhwystrau logistaidd rhag gallu cael gofal sylfaenol yn y Canolbarth.
Mae THINK (Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd) yn cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer secondiadau ar draws aelodaeth THINK. Credwn fod angen rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau er mwyn i ymchwil integredig fod yn llwyddiannus. Felly, er mwyn gwneud cais am y secondiad bydd angen i’r ymchwilydd fod ar gontract cyflogaeth eisoes mewn prifysgol neu sefydliad sy’n ymwneud â thrafnidiaeth neu iechyd. Gall THINK ddarparu hyd at £2000 i’ch sefydliad (i dalu am gostau’ch amser i ffwrdd, er enghraifft) neu’ch corff cyflogi (RHCW yn yr achos hwn, i dalu rhywfaint tuag at eich amser a’ch threuliau eraill e.e. costau teithio).
Ymrwymiad amser: 1 diwrnod yr wythnos dros 3 mis (12-14 diwrnod i gyd, yn ddibynnol ar y cyfraniad uchaf posib, sef £2k). Bydd rhaid cwblhau’r secondiad erbyn mis Mehefin 2024.
Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, sy’n brosiect cydweithredol rhwng y tri bwrdd iechyd sy’n gweithredu ar draws y Canolbarth (Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Betsi Cadwaladr; Bwrdd Iechyd Addysgu Powys), wedi cael y dasg o wneud ymchwil i ddarpariaeth meddygon teulu ledled y Canolbarth, gan archwilio i enghreifftiau o ymarfer gorau’r modelau amgen ar gyfer darparu gofal sylfaenol yng nghefn gwlad (ar gais Grŵp Rhanddeiliaid RHCW ac wedi’i gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal: Adolygiad a Chynllun Gweithredu ar gyfer darpariaeth meddygon teulu / gofal sylfaenol ar draws Canolbarth Cymru). Bydd rhan o’r gwaith yn cynnwys edrych ar ba mor bell y mae cleifion yn teithio i ganolfannau gofal sylfaenol ac unrhyw rwystrau logistaidd rhag gallu defnyddio gwasanaethau Gofal Sylfaenol. Bydd y secondai’n cynorthwyo â’r elfen hon o’r ymchwil, gan weithio’n agos gyda Phennaeth Iechyd a Gofal Gwledig Cymru.
Bydd y gwaith hwn yn rhoi cyfle i weithio ar draws sectorau, o bosibl rhwng y byd academaidd a gofal iechyd, a meithrin perthnasoedd gwaith a fydd yn elwa o gadernid ymchwil academaidd yn ogystal â dealltwriaeth a gwybodaeth gwaith gweithredol.
Bydd angen llunio adroddiad byr ac adfyfyriol, ar y cyd â RHCW, ar ddiwedd y secondiad i gofnodi canfyddiadau’r ymchwil a wnaed a’r profiadau o gydweithio.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, anfonwch lythyr byr o ddiddordeb yn tynnu sylw at eich profiad a allai eich helpu gyda’r gwaith hwn a nodi pam rydych chi am ei wneud, gyda chadarnhad bod eich sefydliad cyflogi yn fodlon â hyn mewn egwyddor. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb ar gyfer y secondiad hwn yw dydd Llun 13 Tachwedd 2023. Os oes sawl mynegiant o ddiddordeb o safon uchel, bydd aelod o dîm cyflawni THINK a Phennaeth Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn cyfweld yn anffurfiol â’r rhai ar y rhestr fer i sicrhau bod yr anghenion yn cael eu diwallu yn y modd gorau posib, o safbwynt y secondai ac o ran RHCW.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol/manteisiol ond nid yn hanfodol.
Os oes gennych ddiddordeb neu am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Amy Nicholass, Swyddog Prosiect THINK yn think@aber.ac.uk
Digwyddiadau sydd ar y gweill
Seminar yr hydref ar wytnwch seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, dyddiad i’w gadarnhau.
Cynhadledd hybrid THINK Gaeaf 2023
Lleoedd wedi eu hariannu’n llawn, wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Rhag 13eg 2023 yng Nghaerdydd – archebwch nawr. Manylion: https://THINK2023WinterConference.eventbrite.co.uk
Os hoffech chi gynnig syniad ar gyfer cyflwyniad neu boster ar gyfer y gynhadledd, llenwch ein ffurflen a’i hanfon mewn e-bost at think@aber.ac.uk erbyn 27 Medi.
Syniadau-Cyflwyniad-Cynhadledd-Gaeaf-THINK-2023-1 Lawrlwytho
I gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd y lleoliad a’r profiad ar-lein, darllenwch ein Datganiad Hygyrchedd.
Datganiad-Hygyrchedd-Cynhadledd-Gaeaf-THINK Lawrlwytho
Medi 2023
Seminar THINK ar ddefnyddio e-feiciau cargo yn y Deyrnas Unedig
Ymunwch â THINK am seminar ar-lein a fydd yn archwilio tair enghraifft o ddefnyddio beiciau cargo trydan yn y Deyrnas Unedig.
1. Bydd Jake Neighbour a Harry Tainton o Sustrans yn rhannu eu profiad o brosiect E-Symud.
Mae E-Symud yn gynllun benthyca beiciau trydan i bobl sy’n byw yn Aberystwyth, y Rhyl, y Barri, Abertawe, y Drenewydd a’r ardaloedd cyfagos. Jack Neighbour yw swyddog prosiect Sustrans Cymru sy’n gyfrifol am gydlynu benthyciadau ledled Aberystwyth a’r Drenewydd. Mae gan Jack lu o brofiad o ran canfod a goresgyn yr heriau sy’n gysylltiedig â chyflwyno prosiect benthyca e-feiciau.
Mae Harry Tainton yn uwch swyddog cloriannu gydag uned ymchwil a monitro Sustrans. Mae Harry’n gyfrifol am gasglu tystiolaeth o effaith prosiect E-Symud a cheisio canfod pa rwystrau sy’n atal cyflwyno beiciau trydan yn ehangach ledled Cymru.
Rhyngddynt, byddant yn siarad am agweddau ymarferol darparu cynllun benthyca beiciau trydan llwyddiannus yng Nghymru ac effaith E-Symud, cyn rhoi cipolwg cryno ar y gwaith y byddai angen ei wneud yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod beiciau trydan yn cael eu defnyddio’n ehangach.
2. Mae Graeme Sherriff yn Ddarllenydd yn Ysgol Iechyd a Chymdeithas Prifysgol Salford.
Mae’n cynnal gwaith ymchwil ar deithio llesol a microsymudedd ar y cyd, gan gynnwys rhannu beiciau, e-sgwteri ac e-feiciau cargo. Bydd yn trafod datblygiadau diweddar ym Manceinion Fwyaf o ran e-feiciau cargo yn benodol, ac yn myfyrio ar ba gymorth polisi a allai sbarduno rhagor o ddefnydd o’r cerbydau hyn.
Bydd cyfarwyddiadau ymuno â’r digwyddiad ar-lein yn cael eu hanfon atoch ddiwrnod cyn y digwyddiad.
THINK yn cyhoeddi enillwyr y Grant Materion Trafnidiaeth mewn Cymunedau Gwledig 2023
Cawsom naw cais am ein grant o hyd at £2000 ar gyfer Materion Trafnidiaeth mewn Cymunedau Gwledig.
Roeddent yn syniadau ar gyfer prosiectau diddorol o ansawdd uchel. Dewiswyd y rhai oedd yn dangos cymuned wledig ddiffiniedig mewn angen, ac oedd yn edrych ar ffordd ymarferol o helpu’r gymuned honno i ddatrys ei heriau trafnidiaeth ac iechyd, a phrosiectau y gellid eu cyflawni cyn Gorffennaf 2024.
Y tri phrosiect y mae’r wobr yn eu cefnogi yw:
Archwilio Gwasanaeth Bws a Beiciau Trydan i’r Chwe Chyngor yn y dyfodol
Dan arweiniad Kate Inglis, Cynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llangatwg
Mae Llangatwg yn bentref gwledig gyda thua 1000 o drigolion yn Nyffryn Wysg ym Mhowys. Ceir problemau cynyddol yno gyda nifer y ceir a dim digon o le parcio. Mae’r drafnidiaeth gyhoeddus bresennol yn yr ardal yn gyfyngedig iawn a does dim digon o wasanaethau’n rhedeg i’r pentrefi llai. Nid oes digon o ddefnydd yn cael ei wneud o’r gwasanaeth presennol a hoffem ddeall pam fod hyn yn digwydd.
Y dull allweddol yw cynnal arolwg/holiadur lleol, wedi’i gynllunio a’i ddadansoddi gan arbenigwr ymgynghorol proffesiynol mewn trafnidiaeth gymunedol. Byd hyn yn helpu Cyngor Cymuned Llangatwg i ddeall y galw, cyrhaeddiad a llwybrau corfforol, dulliau gweithredu ac yn helpu gydag achos busnes i gefnogi cais i ariannu prosiect mwy er mwyn sefydlu gwasanaeth E-fws ac E-feiciau Cymunedol lleol.
Edrych ar y gobaith o symudedd e-ficro a rennir yn India Wledig
Dan arweiniad Dr. Anshuman Sharma, Athro Cynorthwyol yn Sefydliad Technoleg India (BHU) a Dr Yasir Ali, Darlithydd, Grŵp Trafnidiaeth a Chynllunio Trefol, Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a Pheirianneg Sifil, Prifysgol Loughborough
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i’r cymhellion a’r rhwystrau i fabwysiadu dulliau micro-symudedd trydan a rennir (megis rickshaws trydan) yng nghefn gwlad India trwy gynnal arolwg, gan ystyried nodweddion demograffig-gymdeithasol, fel grŵp oedran, rhyw, statws economaidd, statws priodasol, ac addysg. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i’r ffactorau sy’n annog trigolion gwledig i ddefnyddio dulliau micro-symudedd trydan a rennir, a’r ffactorau sy’n eu hatal. Bydd y prosiect hefyd yn dyfeisio ymyriadau er mwyn lliniaru’r rhwystrau ac annog defnyddio dulliau micro-symudedd trydan a rennir.
Mentrau Cludiant Cymunedol – Gyrwyr Gwirfoddol (rhwystrau i wirfoddoli)
Dan arweiniad Rhian Hathaway, Swyddog Grantiau, Canolfan Pontydd ac Andrea Charles, Rheolwr Prosiect Lles Cymunedol
Mae’r diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Sir Fynwy yn creu her sylweddol i drigolion sy’n ceisio defnyddio gwasanaethau hanfodol a chynnal cysylltiadau cymdeithasol. Mae’r cynllun ceir cymunedol, er ei fod yn ateb addawol, yn cael anhawster yn recriwtio gyrwyr gwirfoddol, sy’n golygu bod ei allu i ateb y galw’n cael ei rwystro. Nod y prosiect ymchwil hwn, sy’n cynnwys arolygon a chyfweliadau manwl, yw canfod a mynd i’r afael â’r rhwystrau i recriwtio gwirfoddolwyr, gan wella effeithiolrwydd a chyrhaeddiad y cynllun ceir cymunedol yn y pen draw. Drwy fynd i’r afael â’r materion yma, bydd y prosiect yn cyfrannu at wella symudedd, meithrin ymgysylltiad cymunedol, a gwella lles cyffredinol trigolion Sir Fynwy.
Mis Awst 2023
Tîm cyflwyno THINK yn croesawu aelod newydd am 9 mis – Dr Burcu Tekeş!
Mae Dr. Burcu Tekeş yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Başkent, Twrci. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn gweithio gyda ni fel cynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol ar brosiect THINK.
Mae gan Burcu Ph.D. mewn Seicoleg Traffig a Thrafnidiaeth ac MSc. mewn seicoleg gymdeithasol. Mae ganddi brofiad blaenorol gyda Vision Zero: Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd yn Nhwrci fel yr uwch arbenigwr ar ymddygiad dynol. Ar seicoleg gymhwysol mewn traffig a chludiant, yr amgylchedd ac iechyd yn arbennig mae ymchwil Burcu yn canolbwyntio’n bennaf. Mae ganddi dros 30 o gyhoeddiadau ymchwil, gan gynnwys llyfr ar Seicoleg Traffig.
Cewch fwy o wybodaeth am waith Burcu yma: https://www.researchgate.net/profile/Burcu-Tekes
Mis Mehefin 2023
THINK yn cynnal gweithdai cyhoeddus ar-lein:
Bws Rhywedd+: Gwneud y gwasanaethau bws yn fwy diogel i fenywod mewn cymunedau gwledig
Rydym yn cynnal dau weithdy ar-lein fydd yn para awr a hanner ar y 15fed o Fehefin am 11am a 6pm i fenywod sy’n byw mewn cymunedau gwledig a threfi llai yng Nghymru. Bydd yn gyfle iddynt rannu eu barn a’u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau bws cyhoeddus a chyfrannu syniadau fel bod defnyddio bysiau yn brofiad mwy diogel a chynhwysol.
Cewch fwy o wybodaeth am y prosiect Bws Rhywedd+ yma
Cynhelir y digwyddiad hwn gan Lucy Baker, Cydymaith Ymchwil Ôl – ddoethurol yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
7fed Mehefin 10-2 a 22 Mehefin 2-5pm ar-lein
Systemau mapio teithio llesol i bawb yn y Deyrnas Unedig
THINK yn cynnull ymarfer mapio systemau er mwyn cofnodi’r rhyng-gysylltiadau sy’n ysbrydoli teithio llesol hygyrch (cerdded, olwyno a beicio) i bawb yn y Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth a lle ar yr ymarfer yma, e-bostiwch think@aber.ac.uk
Mis Mai 2023
Gweithdy THINK: Cyflwyniad i Gyd-gynhyrchu a Chyfranogiad Dinasyddion
Darllenwch fwy ar y dudalen adnoddau Cyd-gynhyrchu
THINK yn lansio Cynllun Mentora
Gwybodaeth am sut i ddod yn fentor neu gael eich mentora ar dudalen y Cynllun Mentora
Mis Ebrill 2023
Seminar ar-lein THINK ar ‘The Gig Economy, Logistics, Health and Wellbeing‘
Ar gael i’w wylio ar-lein:
Seminar THINK ‘The Gig Economy, Logistics, Health and Wellbeing’ – YouTube
Mis Mawrth 2023
Cynhaliodd THINK ddwy sesiwn hyfforddi gydag Anabledd Cymru
Roedd y cwrs yn edrych ar:
- Beth yw Anabledd?
Beth sy’n dod i’r meddwl pan fyddwch chi’n meddwl am ‘anabledd ‘? Cwestiynu beth yw anabledd a sut y gellir ei ddehongli.
- Modelau Anabledd
Mae dau brif fodel anabledd: y Model Cymdeithasol, a’r Model Meddygol. Byddwn yn eu trafod, edrych ar y gwahaniaethau rhyngddynt ac yn trafod pam fod Pobl Anabl yn defnyddio’r model cymdeithasol. Byddwn hefyd yn trafod pam ein bod yn credu ei bod yn bwysig defnyddio’r model cymdeithasol a’r pethau/ newidiadau hawdd y gallwn ni i gyd eu gwneud.
- Pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg
Sut y gall geiriau effeithio’n negyddol ar bobl anabl a chreu neu gynnal rhagdybiaeth neu oblygiadau anghywir. Byddwn hefyd yn edrych ar y geiriau mae pobl anabl yn eu defnyddio a pham bod hyn yn bwysig yn ein barn ni.
- Ymgysylltu â phobl anabl
- Teimlo’n gyfforddus yn siarad â phobl anabl – cyngor da (dydyn ni ddim yn brathu!)
- Clywn yn aml fod pobl yn poeni am siomi neu dramgwyddo pobl anabl drwy ofyn neu ddweud y peth anghywir. Yn y sesiwn hon byddwn yn siarad am yr hyn y dylech ac na ddylech ei wneud er mwyn i bawb deimlo’n hapus ac yn hyderus wrth siarad â phobl anabl. Ni fydd unrhyw un yn cael ei farnu yn y sesiwn hon, gofynnwch unrhyw beth!
- Pa ddulliau ymgysylltu sy’n gweithio orau i wahanol bobl anabl ac amrywiol gyflyrau iechyd. Byddwn yn rhoi golwg ar sut mae defnyddio cymorth cyfathrebu, neu lle mae cael hyd i’r feddalwedd.
- Byddwn yn edrych ar y rhwystrau sy’n bodoli pan fydd pobl anabl yn ceisio ymgysylltu, a sut y gellir eu lleihau neu eu dileu.
- Ymchwil Hygyrch
Manteision a rhwystrau gwahanol ddulliau ymchwil, gan gynnwys sut i leihau neu gael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl anabl rhag ymgysylltu’n llawn. Byddwn yn edrych ar sut i greu arolygon rhithwir hygyrch sy’n gweithio gyda darllenwyr sgrin a meddalwedd arall a ddefnyddir gan bobl anabl. Byddwn hefyd yn edrych ar ba fformatau sy’n gweithio orau ac yn rhoi awgrymiadau er mwyn sicrhau bod grwpiau ffocws yn hygyrch i bawb p’un a ydynt yn rhithwir neu wyneb yn wyneb, a sut y gellir dod o hyd i gyfranogwyr anabl i gymryd rhan a’u gwahodd. Byddwn yn siarad am addasiadau rhesymol a chymorth cyfathrebu gan gynnwys palanteipyddion a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain a ble/ sut y gellir eu harchebu.
Ionawr 2023
THINK yn cynnal Gweithdai Gosod Agenda Cyhoeddus
Cewch ddarllen rhagor am y gweithdai ar ein tudalen cyhoeddiadau
Ionawr 2023
Prosiectau Trafnidiaeth ac Iechyd yn y Gymuned
Mae’n bleser gan Rwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd gyhoeddi ei fod yn cefnogi pedwar prosiect sy’n mynd i’r afael â rôl trafnidiaeth yn y dasg o greu cymuned iach. Y prosiectau a ddewiswyd oedd:
Age Connects Morgannwg: Ymchwil Trafnidiaeth
dan arweiniad Bethan Shoemark-Spear, Rheolwr Partneriaeth, Polisi a Datblygiad Strategol Age Connects Morgannwg.
Mae Age Connects Morgannwg yn sylwi ar gynnydd yn y galw am gymorth gyda materion trafnidiaeth gan y bobl hŷn yn eu hardal ac eisiau deall mwy am y rheswm, er enghraifft, ai prinder trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gyfrifol? Ai’r ffaith nad oes modd iddynt gyrraedd eu gorsaf fysiau neu drên agosaf yn ddiogel sy’n gyfrifol? Ai diffyg hyder i deithio ar eu pen eu hunain? Bydd y prosiect yn trefnu a chynnal trafodaethau gyda phobl hŷn a staff cymorth ac yn rhoi amser i ddadansoddi’r ymatebion er mwyn darparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra’n well i anghenion pobl hŷn. Dylai eu helpu i ddod yn annibynnol ac i fynd allan i’r awyr agored.
Cynyddu Symudedd Merched Ifanc trwy Roi ‘Sgwtis’
arweinir gan Dr. Nashia Ajaz, Darlithydd Astudiaethau Rhyw ym Mhrifysgol Menywod Fatima Jinnah, Pacistan.
Sgwtis yw’r enw ar feiciau moped ym Mhacistan. Nod y prosiect hwn yw helpu myfyrwyr benywaidd 18-25 oed, y cyfyngir ar eu symudedd oherwydd normau diwylliannol a chrefyddol Pacistan. Mae llawer o fyfyrwyr benywaidd yn rhoi’r gorau i’w haddysg am eu bod yn wynebu aflonyddu a cham-drin rhywiol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sydd wedi ei gynllunio yn bennaf ar gyfer dynion ym Mhacistan a dynion sy’n ei ddefnyddio fwyaf. Bydd y prosiect yn cynnig prynu sgwtis yn ogystal â rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr benywaidd. Nod y prosiect yw rhoi’r hawl i symudedd, ac annibyniaeth i fenywod ifanc, a’u helpu i fagu hyder. Bydd y prosiect yn cysylltu â menter debyg yng Nghymru.
Cynhwysiant cymdeithasol trwy gludiant cymunedol
Arweinir gan Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA).
Nod y prosiect yw gweithio gyda chymuned benodol sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol sylweddol i gynhwysiant – pobl ag anableddau dysgu – a dod o hyd i opsiynau trafnidiaeth a chymorth a fydd yn helpu i feithrin cysylltiad cymdeithasol. Drwy sicrhau gwasanaethau trafnidiaeth da, daw gwasanaethau a gweithgareddau yn y gymuned leol yn fwy hygyrch a chaiff pobl ag anableddau fwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r prosiect hwn yn gatalydd i annog trafod a gweithredu ar newid arferion gwaith, a dod o hyd i ffyrdd i’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol allu cefnogi gweithredwyr i ymestyn eu gwasanaethau er mwyn cefnogi lles pobl yn well.
Nod cyffredinol y prosiect yw ei ddefnyddio fel cam ymlaen tuag at waith y dyfodol – bydd yn rhoi ciplun o rwystrau allweddol ac yn ein helpu i adnabod y camau nesaf. Y prosiect hwn yw’r man cychwyn er mwyn i ni ddechrau, gyda’n gilydd, mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sefydliadol ac agweddol i deithio. Y gobaith yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gefnogi pobl ag anableddau dysgu i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r prosiect eisiau helpu i wneud newidiadau gwirioneddol ac effeithiol i’r ffordd y caiff gwasanaethau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol eu darparu os nad ydynt yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu. Rydym yn cydnabod y bydd y gwaith hwn yn cymryd llawer mwy o amser na’r prosiect cychwynnol.
Annog Teithio Llesol Yn Y Drenewydd
dan arweiniad Ruth Stafford, Swyddog Prosiect, Canolbarth Cymru. Sustrans
Bwriad y prosiect hwn yw helpu pobl sy’n byw yn y Drenewydd, yn enwedig yn ardal ystâd Treowen, i gerdded, beicio a rowlio mwy. Bydd y prosiect yn rhoi gwybodaeth am opsiynau trafnidiaeth, yn enwedig teithio llesol, ac yn gweithio tuag at sefydlu cynllun cydymaith teithio perthnasol i gefnogi’r trigolion (os yw’n briodol).
Ionawr 2023
Seminar Mannau Chwarae, Ionawr 17eg 16:30-17:30 ar-lein
Os na chawsoch gyfle i fynychu’r digwyddiad, gallwch wylio ar-lein https://www.youtube.com/watch?v=tQEppOkwIUs
Bydd y siaradwyr gwadd Dr Matluba Khan a’r Athro Alison Stenning yn ymuno â ni i siarad am gynnwys plant a phobl ifanc wrth gynllunio mannau trefol a chreu mannau chwarae. Bydd y sgyrsiau’n edrych ar fanteision chwarae mewn mannau cyhoeddus a mannau lle caiff pobl o bob oed ddod at ei gilydd i gymdeithasu yn yr awyr agored. Edrychir ar her creu mannau chwarae, neu dreulio amser hamddenol gyda chymdogion, ffrindiau a theulu, mewn cymunedau.
Digwyddiadau blaenorol yn 2022
Rhagfyr 2022
Gweinidog yn Agor y Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd
Cynhaliwyd lansiad swyddogol canolfan ymchwil newydd Prifysgol Aberystwyth, y Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd, ar y 1af o Ragfyr yn ystod Gŵyl Ymchwil y Brifysgol. Bydd y ganolfan newydd a gaiff ei chyd-gyfarwyddo gan yr Athro Peter Merriman (Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Amgylcheddol) a’r Athro Charles Musselwhite (Seicoleg; cyd-gyfarwyddwr THINK) yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar symudedd a thrafnidiaeth o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol a’r Dyniaethau.
Thema’r diwrnod oedd trafnidiaeth, symudedd ac iechyd a dechreuodd gyda Matthew Jarvis yn darllen ei gerdd am gerdded – Milltir Sgwâr, rhan o dair cerdd a ysgrifennwyd yn canmol cerdded ar gyfer THINK (gweler https://think.aber.ac.uk/in-praise-of-walking/).
Trafododd y prif siaradwr, Dr Justin Spinney o Brifysgol Caerdydd, fod angen dulliau gwahanol o fesur teithio a thrafnidiaeth, a ydyn ni’n mesur yr hyn sy’n wirioneddol bwysig? Sut mae teithio llawen, er enghraifft, yn ffitio i fodelau trafnidiaeth?
Trafododd Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig sut y gall fod yn anodd i ardaloedd gwledig ddilyn cyngor teithio llesol – palmentydd gwael, goleuadau gwael, diffyg cysylltedd sy’n arwain at brinder lleoedd ar gyfer teithio llesol ac ar gyfer cyfarfod yn anffurfiol ac yn ffurfiol.
Yn olaf, cawsom ein hatgoffa gan yr Athro Peter Merriman fod symudedd a symudiad yn ganolog i’n bywydau. Mae’r symudeddau fel maes yn canolbwyntio ar hyn drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau creadigol, gan gynnwys rhai o’r celfyddydau a’r dyniaethau ac maent yn bwysig o ran llywio polisi ac ymarfer ond anaml y rhoddir iddynt y sylw y maent yn ei haeddu.
Cynhaliwyd y lansiad swyddogol gan Lee Waters, AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a siaradodd bod angen i ganolfan o’r fath fod yn sail i faterion trafnidiaeth cyfredol. Gofynnodd inni i gyd feddwl yn wahanol am drafnidiaeth gan ein hatgoffa bod trafnidiaeth, yn ei hanfod, yn ymwneud â phobl a chyfiawnder cymdeithasol.
Ategwyd y sgyrsiau gan wybodaeth a stondinau gan THINK, yn rhannu rhywfaint o’r ymchwil allweddol hyd yma, a bu SUSTRANS yn rhannu gwybodaeth am eu prosiect E-Symud.
Mae’r Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd yn bwriadu ychwanegu at y lansiad hwn trwy gynnwys mwy o academyddion o wahanol ddisgyblaethau ac mae’n gwahodd pobl o feysydd polisi ac ymarfer i gysylltu. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Ganolfan yn https://cetram.aber.ac.uk
Charles Musselwhite chm93@aber.ac.uk
Peter Merriman prm@aber.ac.uk
Hydref 2022
THINK yn lansio’r Gronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned
Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yng Nghaerdydd
Mynychodd tîm cyflwyno’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd (THINK) gynhadledd YIGC yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2022 a chafwyd sgyrsiau diddorol yn y stondin a lansio Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned.
Bydd tîm cyflwyno THINK yng nghynhadledd YIGC yng Nghaerdydd ar Hydref y 13eg, dewch draw i’n stondin i ddweud helo!
Digwyddiad i ddod – Mehefin 2022
Cynhadledd Ryngwladol ar Drafnidiaeth ac Iechyd 2022
Edrych ar y ffactorau macro wrth nodi’r Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd micro
Dyddiad y gynhadledd: 13 – 30 Mehefin 2022
DIWRNODAU WYNEB YN WYNEB a RHITHWIR
- Caerdydd, Cymru (y Deyrnas Unedig) – Prynhawn yr 21ain o Fehefin (13:00 – 17:30) a diwrnod llawn ar yr 22ain o Fehefin (09:00 – 17:00)
- Denver, Colorado (UDA) – 27 a 28 Mehefin
- Montreal, Canada – 16 a 17 Mehefin
Mae’n bleser gan THINK weithio mewn partneriaeth â’r gynhadledd hon i hwyluso ei hymweliad â Chaerdydd. Ymunwch â ni ar yr 21ain a’r 22ain o Fehefin wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, neu ar-lein.
Byddwn yn cydlynu prif areithiau, gweithdai i drafod pynciau dadleuol y dydd, cyflwyniadau ar waith ymchwil gwyddonol ac ymarferol (wyneb yn wyneb a rhithwir) a digwyddiadau cymdeithasol. Gall y sesiynau ymchwil wyneb yn wyneb hefyd gynnwys cyflwyniadau rhithwir, yn dibynnu ar ba awduron fydd ar gael ar y dydd. Agenda lawn i’w chadarnhau. Ymhlith y pynciau trafod fydd canfyddiadau o symudedd, cydraddoldeb trafnidiaeth, cymudo, cerdded, gwasanaethau iechyd, a seilwaith. Hefyd taith gerdded, llogi beiciau dwy olwyn a thair olwyn wedi’u haddasu, ac achlysur cymdeithasol gyda gêm griced. Byddwn yn tynnu sylw aelodau rhwydwaith THINK at yr agenda lawn ar ôl ei lansio.
Rydym yn bwriadu cynnal rhai digwyddiadau rhwydweithio cymdeithasol wyneb yn wyneb hwyliog ar brynhawn yr 21ain Mehefin yng nghanol Caerdydd, gan orffen â thaith ddewisol i wylio un o weithgareddau hamdden enwocaf Prydain – gêm griced!
Cynhelir yr ail ddiwrnod llawn yng Ngerddi Soffia yng nghanol Caerdydd ar yr 22ain o Fehefin. Gallwch gyrraedd y lleoliad yn rhwydd ar droed, beic, trên neu fws (gan gynnwys cysylltiadau rhyngwladol o Lundain). I’r rhai sy’n teithio o bell, mae’r lleoliad hwn hefyd yn agos at lawer o lefydd i aros.
I wybod sut i gyrraedd y gynhadledd, ewch i’r wefan Gerddi Sophia | Criced Morgannwg
Bydd rhaglen gyfan y gynhadledd, gan gynnwys y sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau rhithwir amser real, yn cael ei recordio a bydd ar gael i bob cynrychiolydd sydd wedi’i gofrestru.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael lle yn y gynhadledd, ewch i brif wefan y gynhadledd Cardiff, Wales: 21-22 June (tphlink.com).
Os ydych chi’n arbenigwr ar iechyd cyhoeddus, yn academydd trafnidiaeth, peiriannydd seilwaith, rheolwr ystâd, gweithiwr GIG, ymchwilydd trafnidiaeth ac iechyd, rhagnodwr cymdeithasol, lluniwr polisi trafnidiaeth neu iechyd, neu’n unrhyw un arall gyda diddordeb mewn mynd i’r afael â’r heriau a geir pan fydd trafnidiaeth ac iechyd yn croestorri, ymunwch ag un o’n gweithdai i ganfod datrysiadau i’r heriau hyn.
Yn y gweithdy hwn byddwn yn:
• Nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer trafnidiaeth ac iechyd
• Nodi rhwystrau i gyflawni blaenoriaethau trafnidiaeth ac iechyd
• Ystyried y ffordd orau i gefnogi’r rheini sy’n cydweithio mewn trafnidiaeth ac iechyd
• Datblygu agenda i symud ymlaen i fynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol trafnidiaeth ac iechyd
Dydd Mawrth Mai 17 2022 CADWCH EICH LLE AM DDIM https://www.eventbrite.co.uk/e/328744703257
Dydd Iau Mai 26 2022 CADWCH EICH LLE AM DDIM https://www.eventbrite.co.uk/e/328824552087
Mae rhagor o ddyddiadau i’w cyhoeddi, felly e-bostiwch think@aber.ac.uk os hoffech ymuno â ni ond nad yw’r dyddiadau hyn yn gyfleus ichi.